logocircle logotext logoyfc
 
 
navigationbar
 

 
galleryGaleri

Photos of Wales YFC members in the photo gallery Photos of Wales YFC members in the photo gallery
Photos of Wales YFC members in the photo gallery Photos of Wales YFC members in the photo gallery
Mwy >>
 

Cyfnewid Clwb

Pryd oedd y tro diwethaf i chi gyfnewid clwb?

Am gael hwyl? Eisiau cwrdd ag aelodau CFfI o bob cwr o Gymru neu'r Deyrnas Unedig? Os ydych, fu hi erioed mor syml i gysylltu â chlwb arall. Holwch i ysgrifennydd eich clwb lenwi'r ffurflen felen sydd wedi ei ddanfon at eich clwb ac yna'i ddychwelyd i ni yma yng Nghanolfan CFfI Cymru. Gadewch i ni wneud y gwaith caled o ddod o hyd i glwb sy'n debyg i'ch clwb chi. Fu hi erioed mor syml!

Os yw'ch clwb am gael taith gyfnewid lawn hwyl, addysgiadol, cymdeithasol, anturus, neu hyd yn oed taith i weld rhan arall o Gymru, da' ni'n hyderus y byddwn yn medru cael hyd i glwb i siwtio chi, rhywle yng Nghymru. Felly os ydych chi'n aelod o glwb 'ifanc', clwb mawr, clwb 'hen' neu glwb bach, gadewch i ni eich 'paru' â chlwb arall yng Nghymru.

Am fanylion cysylltwch gyda'n Swyddog Cyllid a Gweinyddol, Helen Edwards ar 01982 553502 neu helen.edwards@yfc-wales.org.uk