logocircle logotext logoyfc
 
 
navigationbar
 

 
galleryGaleri

Photos of Wales YFC members in the photo gallery Photos of Wales YFC members in the photo gallery
Photos of Wales YFC members in the photo gallery Photos of Wales YFC members in the photo gallery
Mwy >>
 

Cystadleuaeth Cynllyn Menter

Mae'r Cynllun yn cael ei redeg gan CFfI Cymru gyda chefnogaeth gan NatWest Cymru, ac fe all unrhyw aelod neu gyn aelod o CFfI Cymru hyd at 31 mlwydd oed ymgeisio ynddo. Bwriad y cynllun yw cynnig cyfle i'r bobl ifanc i brofi syniadau busnes ac i gael blas ar y byd busnes.

I ymgeisio'r cwbl sydd raid ei wneud yw cysylltu gyda Jenni Evans yng nghanolfan CFfI Cymru (01982 553 502 jenni.evans@yfc-wales.org.uk) i drafod eich syniad busnes. Fe fydd hi yn medru cynnig cefnogaeth a'ch cyfeirio at gysylltiadau er mwyn rhoi cefnogaeth i chi lunio cynllun busnes.

Bydd ymgeiswyr hefyd yn cael gwahoddiad i gwrdd gyda phanel o arbenigwyr er mwyn trafod y syniad gyda'r beirniaid, a fydd yn medru cynnig cyngor ar sut i ddatblygu'r syniad ymhellach. Yn dilyn hyn, bydd ymgeiswyr yn derbyn £100 er mwyn datblygu'r syniad busnes. Bydd y tri sy'n dod i'r brig yn derbyn grantiau sylweddol eraill er mwyn datblygu eu busnesau yn ogystal â derbyn cymorth i hyrwyddo a marchnata eu busnesau'n drwy CFfI Cymru a chryf eraill.

Cliciwch yma am fanylion y rhai a oedd yn llwyddiannus yn 2008.

Cliciwch yma am fwy o fanylion.