Elusen y Flwyddyn
Yn ystod CCB CFfI Cymru a gynhaliwyd ym mis Medi 2009 cyhoeddwyd mai Elusen y Flwyddyn ar gyfer 2009/10 yw Sefydliad Aren Cymru. Mae'r elusen yn awyddus i weithio gyda'r CFfI ac mae aelodau o staff ar gael i fynychu noson clwb er mwyn rhoi cyflwyniad i chi ar eu gwaith.
Cofiwch - os ydych yn codi unrhyw arian ar gyfer yr Elusen danfonwch ymlaen at CFfI Cymru, fel y gallwn gyfrifo'r cyfanswm ar ddiwedd y flwyddyn.
NEWYDDION
Her i Tim
Ar hyn o bryd mae Tim yn cymryd rhan sydd wedi cael ei gosod gan Ffederasiwn Sir Gâr. Mae Tim a 5 aelod o Sir Gâr wedi derbyn yr her o beidio shafio na thorri eu gwallt nes Diwrnod Gwaith Maes CFfI Cymru sy'n cael ei gynnal ym marchnad Llanymddyfri a'i westeio gan Ffederasiwn Sir Gâr ar y 10fed o Ebrill. Cyn y seremoni wobrwyo fe fydd Tim John a phawb arall sy'n cymryd rhan yn medru shafio a torri eu gwallt!
Ail sialens Tim, wedi ei osod gan Ffederasiwn Ynys Môn, yw i ymuno â cynrychiolwyr y sir yn ‘Ras Rafftiau'r Menai' ar ddydd Sul y 6ed o Fehefin. Gobeithiai'r sir gael dwy rafft i gystadlu yn y ras ar hyd afon Menai rhwng Felin Heli a Phorthaethwy, un i'r bechgyn ac un i'r merched.
Mae Ffederasiwn Eryri wedi gosod sialens i Tim ddysgu Cymraeg a darllen araith byr yn ystod eu rali ar y 29ain o Fai. Yn ogystal a hyn, maent wedi gosod dau is-sialens sy'n galluogi i'w aelodau gymryd rhan; Tim i gael brwydr ‘pillows' gyda swyddogion y sir a unrhyw aelod sy'n fodlon talu am y fraint ac hefyd ei glymu tra bo aelodau yn talu i daflu sbyngiau gwlyb arno.
Dylai unrhyw un sydd am gyfrannu tuag at yr achos gysylltu gyda swyddfa CFfI Cymru neu ymweld gyda gwefan www.everydayhero.co.uk/challenge_tim.
Taith dros Fywyd
Yng Nghymru, mae rhywun yn marw pob 11 diwrnod tra'n disgwyl am drawsblaniad. Ein elusen dethol eleni yw Sefydliad Aren Cymru (Kidney Wales Foundation) sy'n gyfrifol am gydlynnu'r ymgyrch rhoi organnau yng Nghymru. Mae eu digwyddiad codi arian mwyaf yn cael ei gynnal yn fuan ac rydym yn chwilio am Ffermwyr Ifanc i ymuno yn yr hwyl a'u cefnogi.
Rydym yn cyfri'r dyddiau at Daith Dros Fywyd Kidney Wales a noddir gan Specsavers. Ar Fawrth 28, bydd cymunedau led led Cymru yn cymryd rhan yn y teithiau cerdded. Gall y rhai sy'n cymryd rhan fynd ati i gasglu arian gan eu ffrindiau, teluoedd a'u cymuned. Gall Daith Dros Fywyd fod unrhyw hyd a gall fod ar unrhyw ffurf yr hoffech. Mae Sefydliad Aren Cymru yn gofyn i Ffremwyr Ifanc:
- Ymuno â Thaith Dros Fywyd yn eu cymuned leol
- Trefnu Taith Dros Fywyd yn eu hardal.
Mae Sefydliad Aren Cymru yn cynnig llawer iawn o gefnogaeth i drefnwyr ac i'r bobl sy'n cymryd rhan. Byddwch yn derbyn crysau-t, ffurflenni noddi, cefnogaeth gyda'r wasg a llawer mwy.
Hwn yw digwyddiad codi arian pwysicaf y flwyddyn i'r elusen. Yn ogystal â chydlynnu'r ymgyrch rhoi organnau, mae'r sefydliad yn cefnogi pobl sy'n dioddef gyda methiant a chlefyd yr aren. Mae eu gwaith yn canolbwyntio ar gefnogi plant a'u teuluoedd.
Cliciwch yma am llyfryn sy'n esbonio ychydig mwy am y Daith Dros Fywyd. Cymerwch rhan yn y digwyddiad - i wneud hyn, cysylltwch â Tristan Williams ar Tristan@kidneywales.com neu 029 2034 3940

Galeri
