logocircle logotext logoyfc
 
 
navigationbar
 

 
galleryGaleri

Photos of Wales YFC members in the photo gallery Photos of Wales YFC members in the photo gallery
Photos of Wales YFC members in the photo gallery Photos of Wales YFC members in the photo gallery
Mwy >>
 

Croeso i CFfI Cymru

Croeso i wefan CFfI Cymru. Mae CFfI Cymru yn fudiad ieuenctid gwirfoddol sy'n cynrychioli 6,000 o bobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru. Er bod enw'r Mudiad yn cyfeirio at ffermwyr ifanc, mae ein haelodaeth yn cynnwys pobl ifanc o bob cefndir sy'n byw yng nghefn gwlad - felly nid oes rhaid i chi fod yn ffermwr er mwyn bod yn aelod - os ydych rhwng 10 a 26 mlwydd oed ac yn joio byw a joio dysgu ymunwch gyda CFfI Cymru mwy...

Y diweddaraf o CFfI Cymru

A-Z - Cliciwch yma ar gyfer y tudalen A - Y.

Diwrnod Chwaraeon

Cynhaliwyd diwrnod chwaraeon CFfI Cymru ar ddydd Sul y 28ain o Fehefin, cliciwch yma am ganlyniadau. Mae lluniau ar gael yma.

 

Sioe Frenhinol Cymru - 20 - 23 o Orffennaf

Cliciwch yma ar gyfer newyddion ynglŷn a'r Pentref Ieuenctid, ac yma am amserlen digwyddiadau CFfI Cymru.

 

Cystadleuaeth Magu Llo CFfI Cymru NatWest

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw'r 1af o Awst. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynglŷn â'r gystadleuaeth sy'n rhoi cyfle i aelodau i fagu llo a'i ddangos yn y Ffair Aeaf.

 

 

 Pentref Ieuenctid

Mae Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru wedi trefnu pedwar noson o adloniant gwych ar gyfer y Pentref Ieuenctid eleni a fydd yn cael ei gynnal o nos Sul 19eg o Orffennaf nes nos Fercher y 22ain o Orffennaf yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru. Yn 2009 bydd yr holl ddiddanwyr yn perfformio yn y Pentref Ieuenctid am y tro cyntaf, ac mae CFfI Cymru wedi sicrhau cymysgedd o fandiau a fydd yn sicr o  apelio at bawb. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynglŷn a'r Pentref a'r cyfleusterau sydd ar gael yno.

 


 Confensiwn Cymru Gyfan

Mae Confensiwn Cymru Gyfan wedi cael ei sefydlu i rhoi cyfle i chi i ddweud eich barn am ddyfodol Gymru. I wybod mwy am waith y Confensiwn ac i rhoi eich barn ar y cam nesaf i Gymru ewch i www.allwalesconvention.org. 

Yn adnabyddus fel cynrychiolydd gweithgar o Glwb Ffermwyr Ifanc Cymru, mae Rhodri Evans yn esbonio pam mae'n rhan o Gonfensiwn Cymru Gyfan ac yn dweud pam y mae'n credu fod gan bawb yr hawl i fynegi barn yn yr ymgynghoriad am Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'r ddadl am ddatganoli. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth. 

 

Canllaw Barnu Stoc

Mae CFfI Cymru gyda chymorth Hybu Cig Cymru wedi cynhyrchu llyfryn Canllaw Barnu Stoc ‘Gwybod dy Bethau'. Mae CFfI Cymru yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Hybu Cig Cymru i alluogi'r Mudiad i gynhyrchu'r llyfryn. Gellir cael copïau caled o'r llyfryn oddi wrth eich swyddfa CFfI Sirol neu cliciwch yma i'w gweld dros y we. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Hybu Cig Cymru ewch i'w gwefan.

 

Elusen y Flwyddyn

Elusen y Flwyddyn ar gyfer 2008/09 bydd Diabetes UK Cymru - cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

 

 

 

 

Darlun y Dathlu

Mae prints o'r comisiwn gan Aneurin Jones a'i fab Meirion dal ar gael i'w prynu. Cliciwch yma ar gyfer ffurflenni i archebu darlun ac ar gyfer prisiau.

 

 

 

Dwyieithrwydd

Mae'r Swyddog Datblygu a Hyrwyddo'r Gymraeg yn gyfrifol am sicrhau bod darpariaeth yr iaith Gymraeg a dwyieithrwydd yn cael ei ddatblygu o fewn y mudiad yn ganolog ac o fewn y siroedd. Cliciwch yma a fwy o fanylion.

 

Gwefannau am ddim ar gyfer Clybiau Ffermwyr Ifanc

Am wybodaeth bellach am sut i greu gwefan ar gyfer eich clwb cliciwch yma os gwelwch yn dda. Cofiwch os ydych yn creu gwefan rhowch wybod i CFfI Cymru fel y gallwn roi link o'n gwefan ni.