logocircle logotext logoyfc
 
 
navigationbar
 

 
galleryGaleri

Photos of Wales YFC members in the photo gallery Photos of Wales YFC members in the photo gallery
Photos of Wales YFC members in the photo gallery Photos of Wales YFC members in the photo gallery
Mwy >>
 

MATERION GWLEDIG

Amaethyddiaeth a Materion Gwledig yw un o brif feysydd gweithgaredd ar gyfer CFfI Cymru ac CFfI Cymru yw'r unig Fudiad Cenedlaethol o fewn Cymru sy'n cynrychioli barn pobl ifanc o gefndiroedd gwledig.

Mae'r is-bwyllgor yn cwrdd tair gwaith y flwyddyn ac yn gyfrifol am drafod materion sy'n ymwneud a rhaglen gwaith y Cymuned, Amgylchedd a Menter.

Mae trafodaethau'r pwyllgor yn ffurfio ymatebion CFfI Cymru i faterion cyfredol ac yn y diwedd gall yr ymatebion hyn cael eu cynnwys ym mholisïau Cynulliad Cymru. Mae'r gwaith pwysig yma yn rhan o raglen gwaith Cymryd Cyfrifoldeb sy'n annog pobl ifanc i gymryd cyfrifoldeb am ddyfodol eu hunain ac i gymryd diddordeb mewn materion cyfredol sy'n effeithio eu bywydau.

Caiff nifer o gystadlaethau eu cydlynu gan y pwyllgor,

Her y Gymuned a'r Amgylchedd, Cynllun Menter CFfI Cymru NatWest a Gwobr Ffermwyr Ifanc Urdd Lifai Cymru

Mae'r pwyllgor hefyd yn gyfrifol am nifer o ymweliadau rhanbarthol a gweithgareddau eraill sy'n cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn.

 

Rhan arall o waith y pwyllgor yw'r basdata cyfleoedd. Cafodd y basdata yma ei sefydlu er mwyn ceisio cysylltu ffermwyr ifanc yng Nghymru gyda chyfleoedd sydd ar gael mewn amaethyddiaeth. Mae'r basdata hefyd yn ffordd o greu cysylltiadau gyda'r ffermwyr hynny sydd â chyfleoedd i'w gynnig. Os ydych yn gwybod am unrhyw gyfleoedd ffermio yng Nghymru neu os oes ganoch gyfle i'w gynnig i ffermwyr ifanc cliciwch yma os gwelwch yn dda.