Pentref Ieuenctid
Mae Pentre'
Ieuenctid yn ddigwyddiad sy'n cael ei gynnal yn ystod wythnos y Sioe Fawr bob
blwyddyn gan CFfI Cymru. Tua deg munud o waith cerdded i'r gogledd o faes y
sioe, mae'r 'Pentre' yn gyngerdd roc dwy-ieithog proffesiynnol. Yn medru cynnal
4 noson o adloniant i dros 4,000 o bobl bob nos, dyma'r lle i fwynhau gyda'r
nos yn ystod wythnos y Sioe.
Ar yr un safle mae cyfleusterau gwersylla a charafanio llawn ar gael.
Mae'r Pentre bellach dros ddeg mlwydd oed, ac mae'n parhau i dyfu a datblygu o
flwyddyn i flwyddyn.

Galeri

