TRAMOR
Mae'r cyfle i deithio tramor yn un o'r nifer o gyfleoedd sy'n cael eu cynnig i aelodau'r CFfI drwy'r mudiad a dros y blynyddoedd mae nifer o bobl ifanc wedi teithio gyda'r rhaglen.
Bob blwyddyn mae'n rhaid i aelodau cyflwyno ffurflen gais cyn ‘diwrnod dethol a briffio' arbennig ble mae aelodau yn cael y cyfle i ddysgu am brofiadau blaenorol a beth sydd angen ei wneud er mwy diogelu lle ar daith. Mae'r aelodau hefyd yn derbyn cymorth a chyngor wrth fynd drwy'r broses i ddewis yr aelodau llwyddiannus.
Yn ogystal â'r cyfle i deithio tramor, mae'r Rhaglen Rhyngwladol yn rhoi'r cyfle i aelodau i westeio aelodau o dramor. Mae'r aelodau hyn eisiau gweld sut yr ydym yn byw, gweithio ac yn treulio ein hamser hamdden a'r ffordd ddelfrydol o wneud hyn yw eu caniatáu i fod yn ‘un o'r teulu'.
Gall teithio a gwesteio drwy CFfI fod yn brofiad hynod o werthfawr a gallai arwain at gyfeillgarwch am oes.
Cliciwch yma i gael gweld pwy fydd yn teithio yn ystod 2008.
Am gyfleoedd teithio yn 2009 cliciwch yma.
Caiff y Rhaglen Rhyngwladol ei noddi gan E H Factors o Landysul.

Galeri

